Pleidleisia gyda hyder.
bwrwpleidlais.cymru yw'r un lle sy'n egluro popeth sydd angen i chi ei wybod am etholiad y Senedd ar 7 Mai 2026. Trowch eich pryder pleidleisio yn hyder pleidleisio.
Dyddiadau allweddol
Cofrestra i bleidleisio erbyn: 20 Ebrill 2026
Gwna gais am bleidlais bost erbyn: 5pm 21 Ebrill 2026
Cyhoeddi gwybodaeth ymgeiswyr: 16 Ebrill 2026
Dod o hyd i'ch etholaeth a'ch gorsaf bleidleisio
Dysgwch fwy
Miloedd o bleidleiswyr coll yn cael eu hannog i gofrestru cyn etholiad y Senedd
Mae'r Comisiwn Etholiadol wedi lansio ymgyrch i annog pobl i gofrestru i bleidleisio a sicrhau y gallant gymryd rhan yn etholiad y Senedd ar 7 Mai. Y dyddiad cau ar gyfer cofrestru i bleidleisio yw hanner nos ddydd Llun 20 Ebrill. Gall pleidleiswyr wneud cais ar-lein drwy fynd i gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio. Mae’n cymryd pum munud yn unig.
Gwybodaeth hygyrchedd wedi'i chyhoeddi ar gyfer gorsafoedd pleidleisio Cymru
Gall pobl wirio hygyrchedd gorsafoedd pleidleisio ar-lein am y tro cyntaf mewn etholiad Cymreig